Caernarfon: 01286 672391

Brid Hynafol

Brid Hynafol

Mae brid y gwartheg Duon Cymreig yn un o'r hynaf ym Mhrydain. Roedd y gwartheg yn pori ar lechweddau Cymru cyn dyfodiad y Rhufeiniaid, a nhw oedd eiddo mwyaf gwerthfawr yr Hen Frythoniaid wrth iddynt ymgilio tua'r Gorllewin rhag y Sacsoniaid goresgynnol.

Mae tarddiad y gwartheg Duon Cymreig, yr un fath รข tharddiad y rhan fwyaf o'r bridiau brodorol, braidd yn niwlog. Mae yna dystiolaeth fod y brid, neu un o'i ragflaenwyr, yn bodoli yng nghyfnod y Rhufeiniaid; yn sicr, cafodd gwartheg duon eu bridio yng Nghymru am dros fil o flynyddoedd.

Yn aml defnyddid y gwartheg yn lle arian, a dyna sut cafwyd y dywediad 'yr aur du o fryniau Cymru'. Byddai porthmyn yn gyrru'r gwartheg am wythnosau i farchnadoedd yn Lloegr ac yn dychwelyd gyda llawer o arian. Fel canlyniad, roeddynt yn agored i ymosodiadau gan ladron pen ffordd. Dyna oedd un o'r rhesymau dros sefydlu 'Banc yr Eidion Du' a ddaeth wedyn yn Banc Lloyds.

Tan ddechrau'r 1970au ystyrid y gwartheg Duon Cymreig yn frid deublyg, ar gyfer cynhyrchu llaeth a chig. Roedd yna ddau fath o anifail, sef teip byrdew Gogledd Cymru ar gyfer cig a theip llaethog Castellmartin, De Cymru. Mae'r anifail Du Cymreig erbyn hyn yn cyfuno'r gorau o'r ddwy nodwedd.

Fel canlyniad, mae gennym frid gwartheg Duon Cymreig modern yn cynnig gwartheg sydd yn ateb gofynion ffermio modern. Mae'r buchod sugno cymedrol eu maint yn hawdd eu trin a'u trafod ac yn gallu magu lloi purlinach a chroesfrid cryf sydd yn addas ar gyfer systemau pesgi traddodiadol a dwys.