Y Gymdeithas

Ein Hamcanion

Amcanion Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig yw:

- Cynnal llinach bur y Gwartheg Duon Cymreig a hybu gwelliannau’r brîd;

- Annog ffermwyr i gofrestru gwartheg o dras y brîd;

- marchnata gwartheg yn arwerthiannau’r Gymdeithas gan alluogi aelodau buchesi sefydlog a newydd i olrhain y gwartheg;

- hybu ansawdd a nodweddion y brîd mewn sioeau amaethyddol, ymweliadau fferm, cystadlaethau, trwy hysbysebu, a’r cyfryngau;

- darparu llyfr buchesi i gofnodi pedigri’r gwartheg a chynnal cofnod parod o’r gwartheg sydd wedi’u cofrestru yn ystod y flwyddyn.

Fe’n lleolir ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair ym Muallt, ac mae gennym swyddfa hefyd yng Nghaernarfon, yng Ngogledd Cymru.

Yn gysylltiedig â phrif gymdeithas y brîd, mae clybiau bridwyr yn Ne a Gogledd Cymru, yn ogystal â Lloegr. Mae yna glybiau Gwartheg Duon ffyniannus yn genedlaethol hefyd gyda chymdeithasau yn Seland Newydd, Awstralia, Canada a’r Almaen.

Mae’r Gymdeithas yn elusen gofrestredig, rhif 244415.