Bîff Gwartheg Duon Cymreig
Mae cig eidion y Gwartheg Duon Cymreig ymhlith y gorau yn y byd ac a ddefnyddir gan ben-cogyddion a bwytai ledled y Deyrnas Unedig.
Yn wir, yn ystod sesiwn flasu gudd o stêcs ffiled gan 12 o ben-cogyddion Llundain, daeth ymgais y Gwartheg Duon Cymreig i’r brig yn y gystadleuaeth gan guro bridiau bîff adnabyddus, yn cynnwys Chalosse, Salers, Limousin, Charolais, Simmenthal, ac Aberdeen Angus. Datganwyd cig eidion Gwartheg Duon Cymru y gorau gan yr arbenigwyr.
Gellir dod o hyd i gig eidion Gwartheg Duon Cymru, o’r ansawdd gorau, mewn nifer o ganolfannau - yn amrywio o ffermydd i gigyddion, ac fe’i arlwyir mewn bwytai ledled y wlad. Felly, pam na wnewch ofyn am gig eidion Gwartheg Duon Cymru er profi gwledd!
