Y Brîd

Gall brîd y Gwartheg Duon Cymreig wir hawlio ei fod yn frîd Prydeinig brodorol gan iddo gael ei ddatblygu, ac y parheir i’w ddatblygu yn y Deyrnas Unedig drwy eneteg y Gwartheg Duon Cymreig Prydeinig yn unig, heb unrhyw fewnbwn o waed Gwartheg Duon Cymreig sydd wedi’i fewnforio nac o fridiau eraill.
Er y gwelwyd bod y Gwartheg Duon Cymreig yn perfformo’n dda mewn ystod eang o sefyllfaoedd, gan gynnwys bridio bîff iseldir a systemau pesgi, seiliwyd enw da y brîd ar ei allu i ffynnu ar dir ymylol ac ucheldiroedd. Yno, enillodd ei barch oherwydd ei arferion porthi a’i wytnwch, ynghyd â’i allu i loia a magu’n rhwydd.
Y gallu hwn i droi tir pori garw yn llaeth ar gyfer lloi ac yn gig eidion o’r radd flaenaf a sicrhaodd iddo le o fewn systemau ffermio cyfoes.
Dyma’r nodweddion a gynhaliodd y galw enbyd am bedigri’r Gwartheg Duon Cymreig gan ddarparu cyfleoedd proffidiol ar gyfer bridwyr presennol a newydd y brîd. Tra defnyddir teirw’r Gwartheg Duon Cymreig yn bennaf ar gyfer bridio pur, darganfydda ffermwyr llaeth, yn ogystal, bod y tarw Du Cymreig yn croesi’n dda gyda’r fuches odro.
Gwnaiff Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig drefnu nifer o arwerthiannau swyddogol yn yr hydref a’r gwanwyn, gwnânt annog a chefnogi dosbarthiadau’r brîd mewn prif sioeau, yn ogystal â chynnig gwybodaeth a chyfarwyddyd i unrhyw un sydd â diddordeb yn y brîd. Mae gan y Gymdeithas hefyd ei Chlwb Organig ar gyfer cynhyrchwyr, presennol a phosibl, sy’n cynhyrchu Gwartheg Duon Cymreig a chig eidion organig.
