Brîd Hynafol

Masnach Llewyrchus

Mae brîd y Gwartheg Duon Cymreig yn un o’r rhai hynaf ym Mhrydain ar ôl trigo ar fynyddoedd Cymru ers yr adeg cyn-Rufeinig a chyn-Gristnogol.

Hwy oedd eiddo mwyaf gwerthfawr y Brythoniaid pan wnaethont ffoi tua’r gorllewin rhag y Sacsoniaid goresgynnol.

Gwnâi’r porthmyn yrru’r gwartheg am wythnosau er mwyn eu gwerthu mewn marchnadoedd yn Lloegr, ac yna dychwelyd i Gymru gyda symiau helaeth o arian gan eu gwneud, yn anffodus, yn dargedau i ysbeilwyr a lladron pen ffordd.

Ond gwnaeth y bygythiad cyson hwn o ladradau beri i’r banc cyntaf gael ei ffurfio, sef Banc yr Ychen Du, sef rhagflaenydd Banc Lloyds.

Oherwydd ei fod yn frîd tra wydn gyda’r gallu i wrthsefyll tiroedd a thymheredd eithafol, fe’i dosberthir fel brîd deuddiben, sy’n cynhyrchu llaeth a bîff.

Cyn chwedegau’r ganrif ddiwethaf, ychydig iawn o Wartheg Duon Cymreig a allforiwyd tu hwnt i’r Deyrnas Unedig, ond bellach, maent yn bodoli yng Nghanada, Seland Newydd, Awstralia a’r Almaen yn ogystal â gwledydd, megis Saudi Arabia, Jamaica ac Uganda.