Hanes y Gwartheg Duon Cymreig

Welsh Black 1856

Fel ag y mae’n wir gyda mwyafrif y bridiau brodorol go iawn, mae gwreiddiau’r Gwartheg Duon Cymreig braidd yn annelwig. Mae tystiolaeth ar gael fod y brîd, neu ei ragflaenwyr, wedi bodoli yn oes y Rhufeiniaid ac awgrymwyd y gellir olrhain gwreiddiau’r brîd i Orynys Iberia.

Yn sicr, bridiwyd gwartheg duon yng Nghymru ymhell dros 1,000 o flynyddoedd, ac megis yn Yr Alban a nifer o rannau eraill o Brydain, fe’u defnyddiwyd yn aml fel math o arian, a dyna’r rheswm y cyfeiriwyd at y fuches fel “yr aur du o fryniau Cymru”.

Chwaraeodd y gwartheg hyn a’u porthmyn ran allweddol o ran datblygu rhwydwaith Cymru fodern gan gynnwys gwasanaethau megis ffyrdd a bancio.

Hyd yn gynnar yn 70au’r ganrif ddiwethaf, ystyriwyd y Gwartheg Duon Cymreig fel brîd deuddiben o ran cynhyrchu bîff a buches odro. Roedd yna ddau fath penodol o’r brîd, sef y math o wartheg bîff byrdew o Ogledd Cymru a’r fuwch odro megis yr anifail o Dde Cymru neu Gastell Martin. Cyfuna brîd y Gwartheg Duon Cymreig yn yr unfed ganrif ar hugain y gorau o’r ddau o ran gallu’r brîd i loia’n rhwydd ac o ran y cynnyrch llaeth i fagu lloi cryf.

Dynodwyd yn y llyfr cyntaf a gyhoeddwyd ar fuches y Gwartheg Duon Cymreig ym 1883 i Gymdeithas gyntaf y Gwartheg Duon Cymreig gael ei sefydlu yn y flwyddyn flaenorol er nad oes unrhyw gofnodion hyd 1904.

Cymylwyd y sefyllfa ymhellach yn yr ystyr bod Cymdeithasau’n bodoli ar wahân yng Ngogledd a De Cymru hyd y lansiwyd y Gymdeithas gyfoes mewn cyfarfod yng Ngwesty’r Boars Head yng Nghaerfyrddin ym mis Awst 1904.

Hyd yn gynnar yn nawdegau’r ganrif ddiwethaf, lleolwyd y Gymdeithas yng Nghaernarfon, gan symud ei phrif swyddfa yn ddiweddarach i adeilad y Gymdeithas ar Faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanfair ym Muallt tra’n cynnal y swyddfa yng Nghaernarfon fel y ganolfan ar gyfer aelodaeth y Gymdeithas a gweithgaredd cofrestru.

Canlyniad hyn oll yw brîd Gwartheg Duon Cymreig cyfoes yn cynnig gwartheg sy’n diwallu anghenion amaethu cyfoes gyda gwartheg sugno o faint gweddol fawr sy’n rhwydd i’w trin gyda’r gallu i fagu lloi pur neu groesfrid cryf sy’n addas ar gyfer systemau traddodiadol a systemau pesgi dwys y brîd bîff.