Cynllun Iechyd Buchesi y Gwartheg Duon Cymreig

Datblygwyd Cynllun Iechyd Buchesi Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig gyda’r bwriad o wella safonau iechyd o fewn buchesi, sy’n arwain at ardystiad o fod yn ‘rhydd’ o rai clefydau o bwys rhyngwladol, megis clefyd Johne, BVD, Leptospira, ac IBR.

Yn draddodiadol ac yn gymwys, canolbwyntiodd bridwyr pedigri ar fridio ar gyfer uwch eneteg. Heddiw gyda’r gallu i ganfod clefydau gyda mwy o fanylder o ganlyniad i dechnegau diweddaraf y labordai, bellach nid yw hyn, ar ben ei hun, yn ddigonol.

Mae prynu stoc sydd eisoes yn dioddef o glefydau y modd mwyaf cyffredin o gyflwyno clefyd i fuches iach. Dylai bridwyr geisio sicrhau ardystiad o fod yn rhydd o glefydau drwy gynllun iechyd gwartheg trwyddedig, ac felly warchod y prynwr rhag cyflwyno clefydau’n ddiarwybod i’w fuches.

Gwneir cryn gynnydd gan y Gwartheg Duon Cymreig gyda nifer cynyddol o fuchesi yn cael eu hardystio’n ‘rhydd’ o ran un neu fwy o glefydau.