Clefyd Johne

Mae’r clefyd hwn yn gyffredin o fewn buchesi llaeth a bîff ym Mhrydain. Oherwydd dulliau hwsmonaeth gyfoes lle cedwir nifer helaeth o fuchod a lloi yn yr un adeilad, mae’n bosibl y bu i’r clefyd ledaenu’n fwy cyflym o fewn buchesi bîff yn y blynyddoedd diweddar.

Amcanion cynllun profion Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig o ran y Clefyd Johne yw:

1) Dynodi buchesi sydd heb eu heintio gan arwain at ardystiad eu bod wedi’u monitro a’u bod yn ‘rhydd’ rhag y clefyd.
2) Rheoli a gwaredu’r clefyd o fuchesi sydd wedi’u heintio.

Profion ar gyfer y clefyd Johne

Wedi ymuno â’r cynllun, cymerir sampl gwaed pob un o’r gwartheg hynny sydd dros ddwyflwydd oed gan filfeddyg y ffermwr a gwneir profion gwaed mewn labordy. Gwneir y profion hyn unwaith y flwyddyn a bydd dau brawf clir gyda bwlch o flwyddyn rhyngddynt yn golygu bod y fuches wedi ennill statws o fod yn ‘rhydd’ rhag y clefyd. Mae profion blynyddol parhaus neu bob dwy flynedd yn angenrheidiol er cynnal y statws hwn, ynghyd â phrofi ac ynysu - hyd nes bydd y canlyniadau’n hysbys, yr anifeiliaid hynny a brynir o fuchesi sydd heb sicrhau’r statws o fod yn ‘rhydd’ rhag y clefyd.

Buddion y Cynllun

Bydd medru profi buches yn ‘rhydd’ rhag y clefyd Johne yn creu diddordeb cynyddol ynghyd â galw am stoc fridio o’r fuches honno ymhlith bridwyr pedigri a masnachol. Eisoes, mae yna nifer cynyddol o fuchesi ardystiedig yn darparu ar gyfer nifer cynyddol o stoc fridio sy’n ‘rhydd’ rhag y clefyd Johne. Hefyd, bydd gwaredu’r clefyd o fuches sydd wedi’i heintio’n flaenorol yn golygu buddion amlwg o fewn y fuches honno. Amcangyfrifir y byddai’r clefyd yn achosi, ar gyfartaledd, mewn buches sugno fasnachol golled flynyddol o £800 mewn buches o 50. Wrth reswm, byddai’r golled yn fwy mewn buchesi sydd wedi’u heffeithio’n ddifrifol gan y clefyd.

Y Gost o Brofi

Mae’r gost yn amrywio o bryd i’w gilydd ac os am y cyfarwyddyd diweddaraf, neu gyfarwyddyd yn ymwneud ag unrhyw agwedd arall o’r cynllun, yna cysylltwch â swyddfa Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig.