Y Clefyd Johne- Ffeithiau
Symptomau
Clefyd nychu cronig yw’r Clefyd Johne gyda dolur rhydd helaeth a cholli pwysau er gwaethaf archwaeth dda, gan arwain yn y pen draw at farwolaeth yr anifail. Mewn achosion unigol, gall y symptomau amrywio o fod yn ddifrifol iawn i fod yn ysgafn gydag ysbeidiau o ryddhad.
Cyfnod Heintus
Mae’r cyfnod heintus yn gyfnod hir (sef, rhwng blwyddyn a phymtheng mlynedd). Golyga hyn y gall rhai gwartheg fod wedi’u heintio er na ddatblygant symptomau’r clefyd, ond, er hynny, medrant ledaenu’r haint drwy’r fuches. Felly, gall y Clefyd Johne fod yn bresennol gan ledaenu drwy’r fuches ymhell cyn i’r ffermwr fod yn ymwybodol ohono. Yn aml, gall gwartheg ddatblygu symptomau o’r clefyd ar ôl cyfnod o straen, megis lloia neu symud i fferm arall, neu, mewn achos teirw, cyfnodau o waith.
Anifeiliaid sy’n dueddol o ddal y clefyd
Mae lloi ifanc o dan 30 diwrnod oed yn dra agored i’r clefyd a gwnânt ddatblygu ymwrthedd yn raddol fel y maent yn mynd yn hyn. Ar ôl 12 mis, medrant wrthsefyll y clefyd yn fwyfwy ac felly, anaml y gwnaiff buchod llawndwf ddal yr haint.
Lledaeniad yr Haint
Lledaenir yr haint drwy lyncu’r organeb a geir o fewn tail sydd wedi’i heintio. Gall un gram o dail buwch sydd wedi’i heintio gynnwys dros 5 miliwn o facteria Johne ac mae llai na 1000 o’r organebau hyn eu hangen i heintio llo ifanc.
Lledaeniad o fewn y fuches
Mae lloi mewn perygl pan fônt yn sugno cadair sydd wedi’i heintio a phan eu bônt yn agored i ddwr neu ffynonellau bwyd sydd wedi’u heintio. Gall dulliau hwsmonaeth gyfoes o gadw nifer helaeth o fuchod a lloi yn rhydd gyda’i gilydd o fewn adeilad ledaenu’r clefyd yn fwyfwy.
Gall yr organeb oroesi ar dir pori hyd at 12 mis, ac mewn dwr hyd at 17 mis. Mae rhai buchod sydd wedi’u heintio yn cael gwared â’r organeb drwy eu llaeth a’u llaeth tor, a gall lloi weithiau eu heintio drwy frych y fuwch cyn geni. Felly, mae’n dra thebygol y gwnaiff buwch sydd wedi’i heintio drosglwyddo’r haint i’w llo.
Trosglwyddo’r haint i fuches
Prynu anifail sydd eisoes wedi’i heintio ond heb amlygu unrhyw arwyddion o’r clefyd yw’r modd arferol o drosglwyddo’r clefyd i fuches.
Atal rhag lledaenu’r Clefyd Johne ymhlith y fuches
Mae’n hanfodol na phrynir gwartheg sydd eisoes wedi’u heintio. Golyga hyn y dylai gwartheg, lle nad yw eu statws yn hysbys, gael eu profi a’u cadw ar wahân cyn eu cynnwys o fewn y fuches. Fodd bynnag, oherwydd na fydd y profion yn canfod yr haint ym mhob anifail yng nghyfnod cychwynnol yr haint, mae bod yn ymwybodol o’r risg i’r fuches yn fwy buddiol na gwybod canlyniadau’r profion o ran anifail penodol. Felly, y gwartheg mwyaf diogel i’w prynu yw’r rheini o fuchesi sydd eisoes wedi’u monitro ac y profwyd eu bod yn ‘rhydd’ rhag y clefyd.
Rheoli’r Clefyd Johne
Mae’r sylfaen reoli yn syml – rhaid dynodi’r anifeiliaid hynny sydd wedi’u heintio a’u difa, ynghyd ag epiliaid y gwartheg sydd wedi’u heintio, ac mae’n rhaid atal heintiau newydd. Felly, mae gwaredu’r Clefyd Johne o’r fuches yn golygu dealltwriaeth drylwyr o’r clefyd gan y ffermwr, cyd-weithrediad clos gyda’i filfeddyg a phrofion gwaed rheolaidd o ran y fuches. Fel rheol, mae ymgais lugoer yn debygol o fethu.
Adnabod anifeiliaid sydd wedi’u heintio
Cymerir samplau gwaed oddi wrth bob anifail 2 flwydd oed ac yn hyn a gwneir profion mewn labordy ar gyfer y Clefyd Johne (Prawf ELISA). Dylid difa pob anifail sy’n profi’n bositif neu eu neilltuo oddi wrth weddill y fuches hyd nes y gellir eu difa.
Ni all prawf gwaed ganfod yr haint ym mhob anifail yng nghyfnod cynnar yr haint, ond fel yr amlygant fwy o arwyddion y clefyd, gwna’r raddfa o’i ganfod gynyddu i 96%. Felly, ar ôl difa anifeiliaid sy’n profi’n bositif yng nghyfnod cynnar y clefyd, gall gwartheg sydd eisoes yn dioddef o’r haint fodoli o fewn y fuches. Fodd bynnag, nid yw’r anifeiliaid hyn, sydd yng nghyfnod cynnar y clefyd, yn cael gwared â chymaint o organebau ac maent yn llai o risg i wartheg eraill, o ran lledaenu’r haint.
Er hynny, mae’n bwysig i ddeall y risg o ymestyn yr haint o fewn buchesi mewn achosion lle bo’r profion yn negyddol er eu bônt wedi’u heintio. Oherwydd eu presenoldeb, mae’r rhaglenni prawf a’r difa yn broses hir, o angenrheidrwydd, ac yn rheswm dros barhau gyda’r profion yn flynyddol a dyna pham ei bod yn ofynnol i gymryd camau i atal heintiau newydd.
Atal heintiau newydd o fewn y fuches
Mae hyn yn seiliedig ar gwtogi’r risg cyn belled â phosibl i loi o dan flwydd oed, ond yn arbennig y lloi ieuangaf, pan fônt yn agored i organebau’r clefyd Johne a waredir drwy dail anifail sy’n dioddef o’r clefyd.
Brechiadau
Rhaid gofyn am gyngor gan eich milfeddyg ynglyn â defnyddio brechiadau.
Mewn buchesi lle bo nifer helaeth o’r gwartheg wedi’u heintio, mae brechu yn fodd effeithiol o gwtogi’r nifer o achosion gan gwtogi, felly, ar yr haint sy’n bresennol yn yr amgylchedd. O’i gyfuno gyda hwsmonaeth a mesurau glanweithdra da (h.y. gofal rhag lledaenu’r haint fel yr amlinellwyd uchod), gall fod yn ddull effeithiol o reoli’r clefyd.
Brechir lloi yn yr wythnos gyntaf wedi iddynt gael eu geni a pharheir gyda’r brechiadau am o leiaf 2 flynedd hyd nes y canfyddir nad yw’r clefyd Johne yn bresennol.
Mae anifail sydd wedi’i frechu yn llai tebygol o ddatblygu symptomau clinigol o’r clefyd Johne, ond gall anifeiliaid sydd wedi’u brechu ddal i gael eu heintio gan ysgarthu organebau ar raddfa fechan heb i’r haint gael ei chanfod drwy’r prawf gwaed ELISA. Oherwydd hyn, nid yw buches yn gymwys i gael ei hardystio’n ‘Rhydd’ rhag y clefyd tra bo anifeiliaid sy’n cael eu brechu yn parhau o fewn y fuches.
Adfer deunydd genetig
Gall ymgais ddifrifol i reoli a gwaredu’r clefyd Johne gynnwys difa stoc fridio werthfawr. Gellir diogelu deunydd genetig drwy wneud defnydd o fridio artiffisial. Ystyrir semen ac embryonau yn risg fechan o ledaenu’r haint. Wrth reswm mae angen derbynyddion sy’n rhydd rhag y clefyd ar gyfer y broses hon