North Wales Club

Latest Annual Report from the NORTH WALES Breeders Club


Mae’n amser eto i mi ysgrifennu ychydig am y Clwb, er mai blwyddyn braidd yn siomedig a gawsom, gyda’r holl drafferthion mae’r ffermwyr wedi gael yn ddiweddar gyda’r afiechydon newydd yn creu problemau i ni. Ond rhaid peidio a digalonni yn ormodol.
Yn gyntaf fe gawson ein cyfarfod blynyddol yng Ngwesty Eryrod, Llanuwchllyn, Y Bala a dyna pryd gymerodd ein cadeirydd newydd, sef Geraint Wynn, yr awenau oddi wrth Alwyn Jones.
Ym mis Mai fe aeth amryw o’r aelodau i Aberystwyth i Gyfarfod Blynyddol y Gwartheg Duon pan ddaeth blwyddyn Mr Bob Williams, Penywern fel llywydd y Gymdeithas i ben a Mr John Pratt yn cymryd drosodd. Hefyd cawsom cinio a chyngerdd gwerth chweil. Llawer o ddiolch i Bob a Sue Williams am eu cefnogaeth i’r Clwb yn ein gweithgareddau ar hyd y flwyddyn.
Bu i ni gael haf gwlyb iawn, ond nid amharodd hynny ar yr aelodau i arddangos eu stoc mewn sawl sioe. Llongyfarchiadau i bawb a fu yn llwyddiannus. Nid yw’n hawdd mynd i’r sioeau pan mae’r tywydd yn eich herbyn – gobeithio fydd pethau yn well eleni.
Roedd rhaid gohirio ein trip blynyddol o achos y clwy traed a’r genau. Nid oedd yn ddoeth i ffermwyr fynd i gerdded o amgylch fferm Mrs Brown yn Moreton in Marsh – roedd hi wedi cael trafferthion mawr yn ystod y llifogydd yn Lloeger ac nid oedd yn bosib mynd yno gan fod y fferm wedi cael ei hamgylchynu â dwˆr – gobeithio y cawn gyfle i fynd yno yn y dyfodol.
Ym mis Tachwedd cawsom ein cinio dydd Sul ar Sul y Cofio yn Fron Olau, Dolgellau. Roedd criw da iawn yno ac i ddilyn fe gawsom sleidiau gan Bob a Sue Williams, Penywern o’r buchesi roeddent wedi bod yn farnu drwy gydol yr haf. Roedd yn arddangosfa diddorol dros ben a llawer iawn o waith wedi mynd i fewn i greu’r sleidiau ynghyd a lluniau bendigedig gan Sue. Llawer iawn o ddiolch i chwi eich dau.
Nid oedd yn bosib cael lleoliad ar gyfer ein cystadleuaeth pencampwr Gwartheg Duon gorau yn y Ffair Nadolig o achos y clwy traed a’r genau ac nid oedd digon o amser gan neb i hysbysebu’r gystadleuaeth – gobeithio cawn gyfle flwyddyn nesaf.
Ym mis Ionawr aeth chwech o’r aelodau gyda cwmni bysus Seren Arian i Llundain am ddau ddiwrnod i’r Excursion 2008. Cawsom aros mewn gwesty moethus  a bu i ni gael gweld ychydig o Kew Gardens a Castell Winsor cyn mynd i’r Excursion 2008. Cawsom ddau ddiwrnod diddorol dros ben a diolch i’r aelodau a gymerodd ddiddordeb a cefnogi’r cwmni.
Fe ddaeth ein blwyddyn i ben gyda cyfarfod blynyddol a chinio yng Ngwesty Plas-y-Dre, Y Bala. Lleoliad newydd i ni fel clwb. Daeth criw da iawn ac roedd yn golled fawr i bawb a fethodd ddod. Fe gawson wledd mewn dwy ffordd – roedd y bwyd yn fendigedig ac roedd yr adloniant i ddilyn yn wych. Buom yn ffodus i gael y baswr Arthur Davies, Bryniog, gyda Ann Bryniog yn cyfeilio i’n diddanu, ac hefyd yr adroddwr digrif, Aeryn Jones, Maerdy. Roedd pawb yn mynd adref wedi cael noson y byddant yn cofio amdani am amser hir iawn. Llawer o ddiolch i’r tri am yr adloniant bendigedig.
Ni fu newid yn ein swyddogion, roedd pawb yn unfrydol iddynt barhau yn eu swyddi.
Ym mis Chwefror bu i’r Clwb gael newyddion da iawn – bu i Sioned Jones, ein Trysoryddes, roi genedigaeth i fab, sef Robart. Llongyfarch­iadau mawr i’r teulu i gyd.
Rydym am fynd i ymweld â Mrs Brown ar Medi 26 am dri diwrnod – gobeithio cawn ymateb da.
Wel dyna hanes ein blwyddyn – ddim mor ddiddorol a llynedd ond fel yna mae pethau weithiau gyda rhai ffactorau na all neb eu ddarogan. Diolch i bawb am bob cymorth rwyf wedi ei gael ar hyd y flwyddyn. Os bydd rhywun eisiau cysylltu gyda mi, fy rhif ffôn yw 01690 770255.


Cofion at bawb,
Nerys Ellis,
Ysgrifenyddes.