Croeso / Welcome
Y gwartheg Duon Cymreig yw'r unig frid brodorol o wartheg o Gymru, ac maent yn gyforiog o hanes.
Ers canrifoedd cafodd y gwartheg hyn eu trysori oherwydd maent yr un mor gartrefol ar dir uchel caregog ag ydynt ar dir isel bras.
Mae'r brid caled hwn yn darparu cig a llaeth o ansawdd uchel. Gall gynnig llawer i systemau ffermio modern oherwydd rhwyddineb cynhyrchu a chig suddlon arobryn.
Ers dros gan mlynedd mae'r Gymdeithas Gwartheg Duon Cymreig wedi meithrin, hyrwyddo a gwella'r brid – gwaith sy'n parhau...