Builth Office: 01982 551 111

Ysgrifennydd Brîd Newydd /New Breed Secretary

Welsh Black Cattle Society is pleased to announce the appointment of Lynfa Jones as the new Breed Secretary from the 22nd of March 2021. Lynfa will be working for the Society full time from our Builth Wells office on the showground and from home.

A farmer’s daughter from Montgomeryshire, Lynfa has graduated from Harper Adams University with a degree in Agri-Food Marketing with Business Studies. Lynfa moves from her role as Marketing Assistant for a Machinery Dealer where she gained valuable experience but responded at once to the vacancy with the Society as her long-term goal has always been to work within the livestock sector.

Lynfa can’t wait to ‘get stuck in’ to her new role saying she’s “excited by the opportunity to join the Welsh Black Cattle Society and I’m looking forward to using my skills to take the Society from strength to strength while still concentrating on the core breed objectives of Wales’ most iconic breed”.

“I look forward to working with the Council members but mainly to meet you, the members, face to face when we can, helping me to understand how the Society can best serve the membership in the future " Lynfa added.

Lynfa is currently Dyffryn Banw YFC’s Club Secretary and Montgomery YFC’s Communications Officer and by now is an old hand on adapting to the world of COVID restrictions and Zoom meetings. The Society are pleased to say they were able to interview for the Breed Secretary role online over Zoom and continue to meet online regularly by adapting to the unusual circumstances by using technology.

Meredydd Jones, Council Chairman added “We are very pleased to welcome Lynfa as our new Breed Secretary and are confident that with the support of the members she will be a great asset to the society. We wish you all the very best Lynfa in your new job and hope you will be happy amongst us. At the same time, I would like to take this opportunity to thank Evelyn Jones for her work over the last four years and wish her all the best for the future”.

If you'd like to contact Lynfa, call 07943 138 480

.

Mae Cymdeithas Gwartheg Duon Cymreig yn falch o gyhoeddi bod Lynfa Jones wedi cael ei phenodi yn Ysgrifennydd newydd i’r Brîd o’r 22ain o Fawrth 2021. Bydd Lynfa yn gweithio i’r Gymdeithas yn llawn amser  o’r swyddfa ar Faes y Sioe yn Llanelwedd ac o adref. 

Merch ffarm o Sir Drefaldwyn yw Lynfa sydd wedi graddio o Brifysgol Harper Adams gyda gradd yn Marchnata Bwyd-Amaeth â Astudiaethau Busnes. Symud o rôl fel cynorthwyydd marchnata i ddeliwr peirianneg amaethyddol mae Lynfa, a cheisiodd am y swydd hon gan ei fod wedi deheu am fod yn rhan o’r sector da byw ers blynyddoedd. 

Dydi Lynfa methu aros i ddod i afael ar ei swydd newydd fel Ysgrifennydd y Brîd, gan ddweud ei bod “yn falch iawn o’r cyfle i ymuno a’r Gymdeithas ac rwy’n edrych ymlaen i ddefnyddio fy sgiliau er mwyn gallu ddatblygu’r Gymdeithas o nerth i nerth tra’n parhau i ganolbwyntio ar brif amcanion y brîd” wrth iddi ddechrau fel ysgrifennydd newydd y Gymdeithas.

Rwy’n edrych ymlaen i gyd-weithio gydag aelodau o’r Cyngor ac yn bennaf i gael cwrdd â chi yr aelodau, wyneb yn wyneb pryd fedrwn, gan fy ngalluogi i ddeall sut gall y Gymdeithas wasanaethu'r aelodau orau yn y dyfodol ” ychwanegodd Lynfa.

Mae Lynfa yn ysgrifenyddes CFfI Dyffryn Banw â Swyddog Cyfathrebu CFfI Maldwyn, ac erbyn hyn yn hen law ar  addasu i’r byd o gyfyngiadau Cofid â chyfarfodydd Zoom. Mae'r Gymdeithas yn falch o ddweud eu bod wedi medru cyfweld ar gyfer y swydd yma dros Zoom ac yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd dros y platform gan addasu i’r amgylchiadau anarferol gan ddefnyddio technoleg.

Ychwanegodd Meredydd Jones, Cadeirydd y Cyngor “Rydym yn falch iawn i groesawu Lynfa atom fel ein Ysgrifennydd Brid newydd ac yn hyderus gyda chefnogaeth yr aelodau bydd yn ased mawr i’r gymdeithas. Dymunwn y gorau i ti Lynfa yn dy swydd newydd a gobeithio byddi di’n hapus yn ein plith. Ar yr un pryd hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch i Evelyn Jones am ei gwaith dros y pedair blynedd ddiwethaf a dymunwn y gorau iddi i’r dyfodol’.

Os hoffwch cysylltu a Lynfa galwch 07943 138 480

  

Back