Caernarfon: 01286 672391

Mae'r Gymdeithas

Society photo Society photo

Mae'r Gymdeithas Gwartheg Duon Cymreig yn elusen gofrestredig, rhif 244415.

Nodau'r Gymdeithas Gwartheg Duon Cymreig yw:

  • cynnal purdeb gwartheg Duon Cymreig a hyrwyddo eu gwelliant.
  • annog ffermwyr i gofrestru gwartheg Duon Cymreig pedigri.
  • marchnata gwartheg yn arwerthiannau'r gymdeithas fel bod aelodau buchesi cyfredol a newydd yn gallu cael hyd i wartheg.
  • hyrwyddo ansawdd a nodweddion y brid mewn sioeau amaethyddol, yn ystod ymweliadau â ffermydd, cystadlaethau a thrwy hysbysebu a chael sylw gan y cyfryngau.
  • cynhyrchu Llyfr Buchesi i gofnodi llinach gwartheg a chynnal olrheinedd y gwartheg a gofrestrir yn ystod y flwyddyn.

Mae gan y Gymdeithas swyddfa yng Nghaernarfon ac un arall ar faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt, Powys.

Mae clybiau bridwyr yn ne a gogledd Cymru a Lloegr wedi'u hymgysylltu â'r brif Gymdeithas. Yn ogystal, mae yna glybiau a chymdeithasau ffyniannus yn yr Almaen, Seland Newydd, Awstralia a Chanada.

Yn dilyn llawer o ystyriaeth fanwl a chael barn gyfreithiol, argymhellir y dylai'r Gymdeithas Gwartheg Duon Cymreig, sydd ar hyn o bryd yn anghorfforedig, wneud cais i fod yn Sefydliad Elusennol Corfforedig. Mae sefydliad o'r fath yn strwythur corfforaethol newydd yn benodol ar gyfer elusennau, a'i fwriad yw bod yn gyfrwng corfforedig ymarferol ac effeithiol i elusennau.