With apologies to Sarah whose report was omitted in its entirity from the Society Journal for 2018
The Society’s Young Member Ambassador from May 2018 is Miss Sarah Vaughan Williams, Caerynwch Farm, Brithdir, Dolgellau.
It is a great honour to be chosen as the Young Member Ambassador for the Welsh Black Cattle Society and I look forward to promoting the breed throughout the year.
My first role was to attend the Royal Welsh Spring Festival where I promoted the breed at the Welsh Black Cattle Society Stand. Soon after, I represented the breed at the Prince of Wales’s 70th Birthday Patronage Celebration at Buckingham Palace which was a great and unforgettable experience. I have also attended the Aberystwyth Show where my brother, Evan, was the Judge of the Welsh Black Cattle classes. Next on my calendar of events is the Royal Welsh Show where I will start my fundraising.
The breed is very close to my heart and has always been an important part of my life. My family moved to Caerynwch in 1958 and established the Caerynwch Herd, my Grandfather joined the Society in 1959 and was successful in several Shows and Society Sales throughout his lifetime. Now my Father, together with my brother and I ensure that the herd continues to develop and improve whilst ensuring that old bloodlines are maintained.
I have always been passionate about farming and knew that I wanted a career related to agriculture, I therefore studied Rural Enterprise and Land Management at Harper Adams University. In 2014 I spent my placement year with Jones Peckover at their Menai Bridge office. I graduated from Harper Adams in 2016 and started working for Jones Peckover as a Graduate Rural Surveyor. After a further two years with the firm, in June 2018 I moved back home to work for Farmers Marts (R G Jones) Ltd in Dolgellau.
I have attended the Welsh Black Cattle Society Show and Sale in Dolgellau from a very young age and always ensure that I have time off work to help prepare the bulls and heifers. I enjoy showing the cattle and have also been the Junior Judge at the May Show and Sale in Dolgellau.
Even while living away from home I have always remained involved with the family farm, helping with the sheep and cattle on weekends and during my spare time. We are now busy during the calving season, I enjoy seeing the new calves and, of course, ensuring that my cow, Olive, receives special treatment!
I plan on making the most of every opportunity that this role will provide and I hope for a successful year for the Society. I look forward to attending more shows, sales and events to promote the breed and to meet current members as well as potential members of the Society.
……………………………….
Llysgennad Ifanc y Gymdeithas o fis Mai 2018 ydi Miss Sarah Vaughan Williams, Fferm Caerynwch, Brithdir, Dolgellau.
Mae'n anrhydedd mawr cael fy newis i fod yn Llysgennad Ifanc i'r Gymdeithas Gwartheg Duon Cymreig ac edrychaf ymlaen i gael hyrwyddo y brid trwy gydol y flwyddyn.
Fy rôl gyntaf oedd mynychu Y Ffair Wanwyn lle hyrwyddais yr brîd ar stondin y Gymdeithas Gwartheg Duon Cymreig. Yn fuan wedi hynny, cynrychiolais y brîd yn nathliad Pen-blwydd Tywysog Cymru ym Mhalas Buckingham, roedd yn brofiad gwych a bythgofiadwy. Rwyf hefyd wedi mynychu Sioe Aberystwyth lle roedd fy mrawd, Evan, yn beirniadu dosbarthiadau y Gwartheg Duon Cymreig. Sioe Frenhinol Cymru sydd nesaf ar fy nghalendr o ddigwyddiadau lle byddaf yn dechrau hel arian.
Mae'r brîd yn agos iawn at fy nghalon ac yn rhan bwysig o'm mywyd. Symudodd fy nheulu i Caerynwch yn 1958 a sefydlu Buches Caerynwch, ymunodd Taid â'r Gymdeithas ym 1959 a bu'n llwyddiannus mewn nifer o sioeau a arwerthiannau y gymdeithas trwy gydol ei oes. Nawr mae fy Nhad, ynghyd â'm brawd a minnau yn sicrhau bod y fuches yn parhau i ddatblygu a gwella tra'n sicrhau bod hen linellau gwaed yn cael eu cynnal.
Rwyf wedi bod a diddordeb mawr mewn ffermio erioed ac roeddwn yn gwybod fy mod eisiau gyrfa yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth, felly fe astudiais 'Rural Enterprise and Land Management' ym Mhrifysgol Harper Adams. Yn 2014, treuliais fy mlwyddyn lleoliad gwaith gyda Jones Peckover yn eu swyddfa ym Mhorthaethwy. Fe wnes i raddio o Harper Adams yn 2016 a dechrau gweithio i Jones Peckover fel Syrfëwr Gwledig, ar ôl dwy flynedd arall gyda'r cwmni, ym mis Mehefin 2018 symudais yn ôl adref i weithio i Farmers Marts (R G Jones) Ltd yn Nolgellau.
Rwyf wedi mynychu Sioe ac Arwerthiant y Gymdeithas Gwartheg Duon Cymreig yn Nolgellau o oedran ifanc iawn a rwyf bob amser yn sicrhau fy mod yn cael amser i ffwrdd o gwaith i gael helpu paratoi y teirw a'r heffrod. Rwy'n mwynhau dangos y gwartheg a dwi wedi bod yn farnwr ifanc yn y Sioe ac Arwerthiant mis Mai yn Nolgellau.
Hyd yn oed tra doeddwn ddim yn byw yng Nghaerynwch, rwyf wedi parhau i gymryd rhan yn y fferm deuluol, gan helpu gyda'r defaid a'r gwartheg ar benwythnosau ac yn ystod fy amser hamdden. Rydym yn awr yn brysur yn ystod y tymor llouo, rwy'n mwynhau gweld y lloeau newydd ac, wrth gwrs, sicrhau bod fy muwch i, Olive, yn cael triniaeth arbennig!
Rwy'n bwriadu manteisio ar bob cyfle y bydd y rôl hon yn ei ddarparu ac rwy'n gobeithio am flwyddyn lwyddiannus i'r Gymdeithas. Edrychaf ymlaen at fynychu sioeau, arwerthiannau a digwyddiadau i hyrwyddo'r brid ac i gwrdd ag aelodau presennol yn ogystal ag aelodau posibl y Gymdeithas.